Gweithiwr Cefnogi

Gweithiwr Cefnogi Gwasanaeth – Adran Achosion Brys (3 swydd ar gael)
Lleoliad: Adran Achosion Brys Wrecsam Maelor, Ffordd Croesnewydd, Wrecsam LL13 7TD
Math o gontract: Achlysurol
Oriau’r wythnos: Yn ôl yr angen
Cyflog: £10.90 yr awr
Ydych chi wrth eich bodd yn helpu pobl mewn angen? Ydych chi’n chwilio am rôl werth chweil a allai roi hwb i’ch gyrfa yn y sector iechyd a chymdeithasol?
Rydym yn chwilio am berson gofalgar a gwydn, sy’n gallu meddwl ar eu traed mewn amgylchedd dan bwysau i ymuno â’n tîm Byw’n Annibynnol fel Gweithiwr Cefnogi Gwasanaeth yn Adran Achosion Brys Maelor Wrecsam.

Wedi’ch lleoli mewn Adran Achosion Brys cyflym, prysur a dwys, byddwch yn darparu cymorth ymarferol ac emosiynol i gleifion. Byddwch yn cyflawni tasgau anfeddygol i ryddhau’r staff meddygol i allu canolbwyntio ar eu rôl glinigol a gwneud arhosiad ymwelwyr mor gyfforddus â phosibl.

Bydd diwrnod ym mywyd Gweithiwr Cefnogi Gwasanaeth yn cynnwys:

Hebrwng cleifion i adrannau penodedig.
Casglu presgripsiynau i gyflymu eu rhyddhau.
Darparu cymorth emosiynol/gofal bugeiliol tra byddant yn aros am driniaeth.
Darparu cefnogaeth emosiynol i ffrindiau agos a theuluoedd.
Sicrhau bod cleifion yn cael bwyd/diod wrth aros am oriau hir a chynorthwyo gyda dosbarthu bwyd yn ystod amser bwyd.
Gyrru cleifion adref ar ôl eu rhyddhau a gwneud yn siŵr eu bod wedi setlo gartref yn ddiogel.
Cyfeirio cleifion at ffynonellau cymorth eraill yn y gymuned.

Sylwch fod y gwasanaeth hwn yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sul (gan gynnwys gwyliau banc) a disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ymrwymo i sifftiau hyd at 10 awr (diwrnodau hyblyg).

I fod yn Weithiwr Cefnogi Gwasanaeth llwyddiannus, bydd angen:

Gwybod sut i wella ansawdd gwasanaeth er budd defnyddwyr, gan ymdrin ag ymholiadau mewn modd diplomyddol a chyfrinachol.
Gwybodaeth dda am wasanaethau a ddarperir gan y GIG a Gofal Cymdeithasol.
Addysg hyd at lefel TGAU (neu gyfwerth trwy brofiad).
Bod yn llythrennog mewn TG.
Trwydded yrru lawn y DU sy’n eich galluogi i yrru cerbyd trawsyrru â llaw.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23.59 ddydd Llun 17 Gorffennaf gyda chyfweliadau i ddilyn.

Mewn cydnabyddiaeth am eich ymroddiad a’ch arbenigedd, byddwch chi’n cael:
• Gwyliau – Byddwch chi’n cael 36 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc) a’r opsiwn i brynu 5 diwrnod ychwanegol o wyliau.
• Cynllun pensiwn – Rydym yn cynnig hyd at 6% o gyfraniad pensiwn.
• Gweithio hyblyg – Byddwn ni’n gwneud yr hyn a allwn ni i sicrhau eich bod yn gweithio mewn ffordd sy’n addas i chi.
• Cyfleoedd Dysgu a Datblygu – Rydym yn un o elusennau mwyaf y DU ac mae gennym ystod eang o gyfleoedd gyrfa. Rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd cynhwysfawr i staff ddatblygu eu hunain.
• Disgowntiau – Bydd gennych fynediad at ddisgowntiau gwych drwy’r Cerdyn Disgownt Golau Glas a’n platfform buddion cyflogeion ein hunain.
• Cefnogaeth Lles – Lles staff yw’r flaenor iaeth bob amser. Bydd gennych fynediad at gymorth iechyd meddwl a llesiant.
• Gweithio fel Tîm – Byddwch chi’n gweithio fel rhan o dîm sy’n cefnogi ein cenhadaeth o helpu pobl mewn argyfwng.
• Beicio i’r Gwaith – Mae’r cynllun beicio i’r gwaith yn eich galluogi i logi beic.
• Benthyciad tocyn tymor – Rydym yn cynnig benthyciad di-dâl i brynu tocyn tymor ar gyfer teithio rhwng y cartref a’r gwaith.

Yn Y Groes Goch Brydeinig, rydym yn ymfalchïo yn ein gweithlu amrywiol, ac yn sicrhau bod gennym amgylchedd cynhwysol ar gyfer ein holl staff a gwirfoddolwyr. Rydym yn parhau i ymrwymo i sicrhau bod ein timoedd yn gallu dod â’u hunaniaethau go iawn i’r gwaith heb risg neu ofn o wahaniaethu. Rydym yn gwneud hyn drwy adrodd data’n rheolaidd, a chefnogaeth fewnol gan ein Rhwydwaith Hil a Chydraddoldeb (REEN) mewnol, Rhwydwaith LGBT+, ein Rhwydwaith Anabledd a Llesiant (DAWN), Rhwydwaith Rhywedd, Rhwydwaith Gofalwyr a Rhwydwaith Ieuenctid.

Cysylltu caredigrwydd dynol ag argyfwng dynol

How to apply

https://www.aplitrak.com/?adid=amFja2llbWNmYWRkZW4uNDExNzkuMzgzMEByZWRjcm9zc3VrLmFwbGl0cmFrLmNvbQ



Leave a Reply